2014 Rhif 2775 (Cy. 281)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 319B a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu rhagflaenu gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014, a fewnosododd adran 319B yn Neddf 1990.

Mae adran 319B o Ddeddf 1990 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn ar gyfer rhai achosion yng Nghymru, sef achosion ar gyfer ceisiadau sy’n cael eu hatgyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 77 ac apelau o dan adrannau 78, 174, 195 a 208 o Ddeddf 1990. Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn ar gyfer achosion o’r fath cyn diwedd y cyfnod rhagnodedig. 

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi mai saith niwrnod gwaith o’r dyddiad perthnasol yw’r cyfnod hwnnw, sy’n cael ei ddiffinio at y dibenion hyn.

Paratowyd asesiad effaith mewn perthynas â’r offeryn hwn. Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 

 


2014 Rhif 2775 (Cy. 281)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014

Gwnaed                                 14 Hydref 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       17 Hydref 2014

Yn dod i rym                     12 Tachwedd 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 319B([1]) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 333 o’r Ddeddf honno([2]) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([3]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Tachwedd 2014.

(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Cyfnod rhagnodedig

2.(1)(1) Saith niwrnod gwaith o’r dyddiad perthnasol yw’r cyfnod rhagnodedig at ddibenion adran 319B(3) o Ddeddf 1990.

(2) Ym mharagraff (1)—

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru; ac

ystyr “y dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw—

(a)     o ran atgyfeiriadau o dan adran 77([4]) o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r atgyfeiriad gan yr awdurdod cynllunio lleol;

(b)     o ran apêl o dan adran 78([5]) o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael y ffurflen wedi’i llenwi a’r dogfennau a bennir yn erthygl 26(1) a (3) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012([6]);

(c)     o ran apêl o dan adran 174([7]) o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r apêl o dan adran 174(3) ynghyd â datganiad o’r apêl a gyflwynwyd yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003([8]);

(d)     o ran apelau o dan adran 195([9]) o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r apêl gan y ceisydd; ac 

(e)     o ran apelau o dan adran 208([10]) o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r apêl gan y ceisydd.


Carl Sargeant

 

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

 

14 Hydref 2014



([1])           1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 319B o Ddeddf 1990 gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014, O.S. 2014/2773 (Cy.280).

([2])           Mae diwygiadau i adran 333 o Ddeddf 1990 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([3])           Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

([4])           Mae diwygiadau i adran 77 o Ddeddf 1990 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. 

([5])           Mae diwygiadau i adran 78 o Ddeddf 1990 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. 

([6])           O.S. 2012/801 (Cy. 110).

([7])           Diwygiwyd adran 174 o Ddeddf 1990 gan adran 6(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991; adran 63 o Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 a pharagraffau 2 a 5 o Atodlen 17 iddi; a Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebu Electronig) (Cymru) (Rhif 1) 2004. Ceir diwygiadau eraill i adran 174 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([8])           O.S. 2003/394 (Cy. 394)

([9])           Diwygiwyd adran 195 gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 a pharagraff 32 o Atodlen 7 iddi; ac adran 197 o Ddeddf Cynllunio 2008 a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 11 iddi. 

([10])         Mae diwygiadau i adran 208 o Ddeddf 1990 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.